Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

01 Gorffennaf 2019

SL(5)422 – Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae'r adrannau hyn yn caniatáu i ddeiliaid sydd â buddiannau penodol mewn categorïau o dir ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir. Un o’r buddiannau hynny mewn tir yw buddiant perchen-feddiannydd hereditament (tir y gellir ei etifeddu, yn y cyd-destun hwn) pan na fo gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan Weinidogion Cymru. Mae’r Gorchymyn hwn yn codi’r terfyn gwerth blynyddol o £34,800 i £36,000 o ran Cymru.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’u gwnaed ar: 11 Mehefin 2019

Fe’u gosodwyd ar: 13 Mehefin 2019

Yn dod i rym ar: 05 Gorffennaf 2019

 

SL(5)423 – Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae Rhan 5 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru roi (neu wneud trefniadau i roi) twll mewn rhan bersonol o gorff person o dan 18 oed. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, dim ond i roi tyllau mewn rhan bersonol o’r corff sy’n cynnwys eitemau o emwaith y mae’r gwaharddiad hwnnw’n berthnasol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi “unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith” fel gwrthrych at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o “tyllu’r corff” yn adran 94(1) o Ddeddf 2017, ond dim ond i’r graddau y mae’r diffiniad hwnnw yn gymwys ar gyfer dibenion y drosedd yn Rhan 5.

Bydd y Rheoliadau hyn, felly, yn dod â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff sy’n cynnwys unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith o fewn cwmpas y drosedd yn adran 95 o Ddeddf 2017.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: